Gellir taro neu plycio tannau offeryn cerdd i ddechrau dirgryniad, gan gynhyrchu --os ydym yn lwcus-- nodyn. Mae gitarydd yn plycio tant ond pianydd yn defnyddio'r morthwylion bach o fewn y piano i daro tannau. Y gwahaniaeth yw fod yr osgiliadau rhydd yn dechrau pan fod gitarydd yn rhyddhau'r tant mewn safle i ffwrdd o'i safle cyfantol, tra bod y morthwyl yn y piano yn taro tant yn y safle cyfantol. Yn yr un modd, mae tant gitar yn cyflymu tuag at y safle cyfantol, tra bod tant y piano ar ei gyflymder uchaf cyn gynted a mae'r morthwyl yn taro, yna mae'n arafu wrth symud tuag at ei osgled fwyaf.
Fel pendilwm, mae'r tant yn osgileiddio rhwng stad o egni cinetig mwyaf (pan mae'n pasio trwy'r safle cyfantol) a egni potensial mwyaf (ar yr osgled mwyaf). Pan mae tant yn cael ei blycio, mae'n cychwyn ei osgled yn y stad egni-potensial; pan mae tant yn cael ei daro, mae'n cychwyn yn y stad egni-cinetig.
Datrysiadau cyffredinol yr hafaliad don yw: |
![]() |
Fe hoelir y dant ar x=0 ac ar x=l: | y(0,t)=y(l,t)=0. |
Felly bydd hanner cyfnod unrhyw osgiliad yn lluosrif o hyd y dant, | |
i.e. amod ton sefydlog: | ![]() |
Hefyd, nid yw'r datrysiadau cos(kx) yn boddhau y(0,t)=0: | ![]() |
Mae'r amodau terfyn eraill yn dibynnu os yw'r tant ar gitar neu piano:
wedi'i blycio (gitar) | wedi'i daro (piano) |
---|---|
Amod terfyn safleol: | |
dechrau ar osgled mwyaf: y(x,0)=f(x) | dechrau ar safle cyfantol: y(x,0)=0 |
Amod terfyn cyflymder (differol): | |
dim symudiad cyn rhyddhau'r dant:
![]() |
cyflymder mwyaf wrth rhyddhau:
![]() |
Ton sin neu cosin mewn amser yw'r datrysiad. Mae'r cyflymder, ei ddeilliad gydag amser, felly'n don cosin neu sin. Mae'r cyflymder yn 0 ar t=0; felly ton sin yw. Felly rhaid i'r datrysiad fod a ffurf cosin mewn amser. | Mae y(x,0)=0 yn gofyn am datrysiad sin mewn amser. |
Dewis o datrysiad cyffredinol: | |
![]() |
![]() |
Ehangu i cyfres sin: | |
![]() |
![]() |
Gan gofio'r amod terfyn...: | |
y(x,0)=f(x) | ![]() |
...ac amnewid: | |
![]() |
Yma mae rhaid differuy(x,t) cyn cymhwyso'r amod terfyn differol:![]() |
Cedwir ffeindio'r cyfernodau Fourier ar gyfer y tant sy'n cael ei hitio ar gyfer gweithdy. Defnyddiwch y talfyriad yna datryswch yr integreiddiad Fourier fel arfer.
Gellir gweld y ffwythiant f(x) sy'n disgrifio safle'r dant cyn ei rhyddhau] (h.y. ar t=0) yn y diagram uchod.
Fel y gwelwn, yr amod terfyn safleol yw: |
![]() |
||||||
I ffeindio'r cyfernodau Fourier, datryswch: | ![]() |
||||||
Amnewid f(x): |
![]() |
||||||
a symud y cysonion o flaen yr integreiddion: |
![]() |
||||||
Mae'r trydydd integreiddiad a'r cyntaf yn unfath (heblaw am y terfynnau). | |||||||
Gellir ei integreiddio mewn rhannau: |
|
||||||
Felly, datrys integreiddiad yn yr hafaliad bn: |
![]() |
![]() |
|||||
amnewid terfynau: |
![]() ![]() ![]() ![]() |
||||||
![]() ![]() ![]() ![]() |
|||||||
![]() ![]() |
|||||||
a thacluso: |
![]() |
||||||
![]() |
|||||||
Mae mwyafrif y cyfernodau yn canslo, felly: | ![]() |
||||||
Mae'r ffactor (-1)n+1 yn galluogi arwydd sy'n newid bob yn ail. I orffen, | |||||||
amnewid y bn fewn i y(x,t): |
![]() |
Mae problemau o'r fath yma'n gofyn am ddefnydd o cyfesurynnau pegynol er mwyn defnyddio eu cymesuredd naturiol. Rhaid trin y dimensiynau gofodol ychwanegol drwy gwahaniadau ychwanegol ar ol gwahanu'r dibynniaeth amser.
Hafaliad don cyffredinol: | ![]() |
Gwahanu'r rhan amser: | ![]() |
then separate x and y: |
![]() |
Mae hyn yn gorffen yr adran ar hafaliadau differol, ond mae gweithdy 4 ar ol i'w gwblhau. Gwiriwch eich datrysiadau wedyn.
Wedi ein cyflwyno i gyfres Fourier, cam bach yw delio gyda trawsffurfiadau Fourier, techneg hynod o bwysig yn ffiseg.