[English]

Y stori hyd yn hyn...

Rydym wedi ffeindio datrysiadau cyffredinol hafaliad Laplace, \frac{\partial^2T(x,y)}{\partial x^2}+\frac{\partial^2T(x,y)}{\partial y^2}=0.
Y datrysiadau cyffredinol yw: T(x,y)=X(x)Y(y)={e^{kx}\sin{ky};e^{-kx}\sin{ky};e^{kx}\cos{ky};e^{-kx}\cos{ky}}
Gan gymhwyso amodau terfyn y broblem plat poeth fe geir T(x,y)=e^{-\frac{n\pi}{10}y}\sin{\frac{n\pi}{10}x}
fel datrysiadau sy'n gwneud synhwyr ffisegol.
Cyfuniad llinol o'r cyfernodau bn is T(x,y)=\sum_{n=1}^{\infty}b_ne^{-\frac{n\pi}{10}y}\sin{\frac{n\pi}{10}x}.

Cymhwyso yr amod terfyn olaf

Cymharwch y cyfuniad llinol uchod gyda'r gyfres Fourier sin: f(x)=\sum_{n=1}^{\infty}b_n\sin{\frac{n\pi x}{l}}.
Maent yn unfath ar gyfer l=10 a y=0 (oherwydd bod y term e yw 1).
Mae'r AT ar gyfer yr ochr sy'n cael ei gynhesu heb ei ddefnyddio eto: T(x,0)=100.
Felly, gallwn amnewid: f(x)=T(x,0)=100=\sum_{n=1}^{\infty}b_n\sin{\frac{n\pi x}{10}}.
Y cyfernodau Fourier yw, yn gyffredinol: b_n=\frac{2}{l}\int_0^lf(x)\sin{\frac{n\pi x}{l}}dx.
Felly yn yr achos yma: b_n=\frac{2}{10}\int_0^{10}100\sin{\frac{n\pi x}{10}}dx.
Integreiddio: =20(-\frac{10}{n\pi})[\cos{\frac{n\pi x}{10}}]_0^{10},
gosod cyfyngiadau: =-\frac{200}{n\pi}(\cos{n\pi}-\cos{0}),
a thacluso: ={\frac{400}{n\pi} (n od); 0 (n gwastad)}.
I orffen, gosod y bn fewn i T(x,y): T(x,y)=\frac{400}{\pi}\sum_{odd n=1}^{\infty}\frac{1}{n}e^{-\frac{n\pi}{10}y}\sin{\frac{n\pi}{10}x}.

A __dyna fe__ !

Crynodeb - hafaliad Laplace

Yr eitem nesaf ar y rhestr o HDR mewn ffiseg yw'r hafaliad trylediad.