Gellir mynegi sinau a cosinau real fel esbonyddion cymhlyg:
Mae nifer o brosesau ffisegol yn gyfnodol a gellir eu trin fel cyfuniad o ffwythiannau sin neu cosin. Yn ychwanegol, rydym wedi gweld fod modd ehangu nifer o ffwythiannau, hyd yn oed rhai anghyfnodol, fewn i gyfres Fourier, h.y. cyfres o harmoniau sin neu cosin (neu, yn fwy cyffredinol, ffwythiannau esbonyddol cymhlyg).
Yn y gyfres sin real pur, | , |
amnewid y sin gyda esbonyddion cymhlyg: | |
a hollti'r swm: | . |
Mae swm yr -n o 1 i anfeidredd yr un fath a'r swm o +n o -anfeidredd i -1. | |
Felly, gallwn gyfri'r ail swm ar i nol: | . |
Gan fod y ddau swm yr un fath, gallwn eu cyfuno: | , |
ble |
Nodwch fod i'r cyfres sin pur, c0=0, ond yn gyffredinol (cyfresi cosin neu cymysg) nid hyn yw'r achos. Yn gyffredinol,
ffeindir y cn drwy | |
i ehangu | . |
Felly, rydym angen datrys integriad i ffeindio cyfernodau yn y gyfres Fourier. Mae'r mynegrifau yn y gyfres ac o fewn yr integriad yr un fath heblaw am yr arwydd. Gallwn cymryd mantais o'r cymesuredd yma i symud o gyfres Fourier arwahanol i drawsffurfiad Fourier parhaol:
arwahanol | -> | parhaol |
---|---|---|
newidyn indecs n | -> | newidyn parhaol q |
cyfernodau Fourier cn | -> | trawsffurfiad Fourier g(q) |
-> | ||
-> |
Newidir y set o gyfernodau cn sy'n dibynnu ar newidyn indecs arwahanol n gan ffwythiant parhaol g(q), yn dibynnu ar newidyn parhaol q.
g(q) yw'r trawsffurfiad Fourier o f(x); f(x) yw'r trawsffurfiad Fourier gwrthdroedig o g(q). Nodwch y cymesuredd!
Oherwydd cymesuredd y trawsffurfiad Fourier a'r trawsffurfiad Fourier gwrthdroedig, mae nifer o rhinweddau ffisegol yn dod mewn parau Fourier: os ydych yn mesur un, rydych yn derbyn y llall drwy drawsffurfiad Fourier. Mae hwn yn dechneg hynod o ddefnyddiol, ac yn gyffredin iawn mewn ffiseg arbrofol. Y ddau esiampl cyffredin yw technegau spectroscopaidd a gwasgariad:
Gallwn nawr edrych ar rhai damcanebion Fourier a gweld syt i rhagdybio ymddangosiad trawsffurfiad Fourier heb orfod gwneud y mathemateg llawn.