[English]

Mae'r hafaliad trylediad yn cysylltu newidiadau mewn gofod gyda newidiadau mewn amser. Mae ganddo deilliadau gofodol ail radd ac un amserol gradd cyntaf. Byddwn yn gweithio ar y datrysiadau cyffredinol yma; mae'r datrysiadau penodol yn dibynnu ar amodau terfun megys y crynodiad ar y dechrau a'r cyfrenodau trylediad. Mae'n defnyddio ehangiad cyfres Fourier fel gyda hafaliad Laplace.

Gwahanu'r newidion

Yr hafaliad trylediad yw: \nabla^2u=\frac{1}{\alpha^2}\frac{\partial u}{\partial t}.
Gan dybio datrysiad lluoswm: u(x,y,t)=F(x,y)·T(t).
Nid yw T(t) yn dibynnu ar x neu y, nid yw F(x,y) yn dibynnu ar t.
Felly gallwn eu cymryd allan o'r deilliadau cyfatebol: T\nabla^2F=\frac{F}{\alpha^2}\frac{dT}{dt}.
Gwahanu termau a cyflwyno cysonyn gwahanu: \frac{1}{F}\nabla^2F=\frac{1}{\alpha^2T}\frac{dT}{dt}=-k^2.
Y ddadl eto yw, gan fod yr ochr chwith yn annibynnol o amser, a fod yr ochr dde yn annibynnol o cyfesurynnau gofodol, gall y ddau yn gyffredinol ond eu cyfri'n hafal os ydynt yn gyson.
Mae hyn yn ein gadael gyda dau hafaliad ar wahan, un gofodol: \nabla^2F+k^2F=0
ac un amserol: \frac{dT}{dt}+\alpha^2k^2T=0.

Nodwch fod y rhan gofodol yn HDR ac yn dibynnu ar x and y!

Rhan amserol

Mae'r rhan amserol yn HDC llinol gradd gyntaf gwahaniaethol. Mae hynny'n hawdd.

Gwahanu newidyn dibynnol ac annibynnol: \frac{1}{T}dT=-\alpha^2 k^2dt,
integreiddio: \ln{T}-\alpha^2 k^2t+const.,
a codi i pwer e: T(t)=e^{-\alpha^2 k^2t}

(heb amod terfyn ffisegol, gallwn ddewsi cysonyn=0).

Gwahanu eto

Y rhan gofodol: \frac{\partial^2F}{\partial x^2}+\frac{\partial^2F}{\partial y^2}+k^2F=0
gellir ei wahanu eto: F(x,y)=X(x)·Y(y).
Amnewid y lluoswm: Y\frac{d^2X}{dx^2}+X\frac{d^2Y}{d^2}+k^2XY=0,
gwahanu termau x a y: \frac{1}{X}\frac{d^2X}{dx^2}+k^2=-\frac{1}{Y}\frac{d^2Y}{dy^2}=-l^2.

Mae'r cysonyn k2 yn cael ei rhoi fel rhan o'r term x yn fympwyol. Mae'r ail gwahaniad newidion yn arwain i gysonyn gwahanu arall, l2. Yn dilyn y gwahaniad, mae gennym

two HDC ail radd gyda cyfrenodau cyson: \frac{d^2X}{dx^2}+(k^2+l^2)x=0, \frac{d^2Y}{dy^2}-l^2y=0.
Y cyfernodau ail radd yw: a2=1, a2=1,
y cyfernodau gradd cyntaf yw: a1=0, a1=0,
a'r cyfernodau gradd sero yw: a0=(k2+l2), a0=-l2.
Israddau'r polinomial rhinweddol yw: \frac{0}{2}\pm\sqrt{\frac{0^2}{4}-(k^2+l^2)}=\pm i\sqrt{k^2+l^2}, \frac{0}{2}\pm\sqrt{\frac{0^2}{4}+l^2}=\pm l,
a'r datrysiadau yw: X(x)=e^{\pm i(k^2+l^2)x}={\sin{(\sqrt{k^2+l^2}x)};\cos{(\sqrt{k^2+l^2}x)}}, Y(y)=e^{\pm ly}.

Gan rhoi'r datrysiad cyffredinol at ei gilydd

Yn olaf, mae rhaid rhoi'r tri datrysiad rhannol at ei gilydd. Felly'r datrysiadau cyffredinol i'r hafaliad trylediad --gan gofio'r cymesuredd gyda pherthynas i x a y -- yw:

u(x,y,t)=X(x)\cdot Y(y)\cdot T(t)={e^{\pm ly-\alpha^2 k^2t}\sin(\sqrt{k^2+l^2}x);e^{\pm ly-\alpha^2 k^2t}\cos(\sqrt{k^2+l^2}x);e^{\pm lx-\alpha^2 k^2t}\sin(\sqrt{k^2+l^2}y);e^{\pm lx-\alpha^2 k^2t}\cos(\sqrt{k^2+l^2}y)}.

Mae taflen waith 3 yn cynnwys esiampl gyda amodau terfyn. Ar ol ei orffen, gwyriwch eich datrysiadau.

Y math cyffredin olaf ar y rhestr o HDR yn ffiseg yw'r hafaliad don.